Ymateb y Llywodraeth: Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022

 

Pwynt Craffu Technegol 1:

 

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr angen i wneud cyfraith Cymru mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr ffyrdd. Fodd bynnag, materion vires a lywiodd y dull drafftio a ddefnyddir yn erthygl 2(2) o'r Gorchymyn yn hytrach na'r angen am hygyrchedd.

 

Mae adran 81(2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 yn awdurdodi’n arbennig y caiff awdurdod cenedlaethol drwy orchymyn “increase or reduce the rate of speed fixed by subsection (1) above, either as originally enacted or as varied under this subsection”. Nid yw geiriad y pŵer yn ei gwneud hi'n glir a awdurdodir gwneud addasiadau testunol i'r gyfradd gyflymder. Nid oes pŵer ategol pendant yn adran 81, nac mewn man arall yn Neddf 1984, i wneud newidiadau canlyniadol i'r adran er mwyn ymdrin â gwahaniaeth tiriogaethol yn y gyfradd gyflymder. Er mwyn gwneud diwygiad testunol, byddai angen dadlau bod y pŵer i wneud addasiadau ategol i adran 81 o reidrwydd yn ymhlyg yn rhinwedd trosglwyddo pŵer adran 81(2) i Weinidogion Cymru o ran Cymru.

 

Gan fod a.81 yn rhan o gyfraith Cymru a Lloegr a'r Alban byddai hefyd angen i unrhyw bŵer ategol sy'n ymhlyg yn adran 81(2) i ailddatgan y gyfraith a gwneud diwygiadau canlyniadol allu gwneud newidiadau i'r gyfraith fel y mae'n gymwys yn yr Alban.

Pe bai wedi bod yn fwriad gan Senedd y Deyrnas Unedig fod pwerau ategol o'r fath gallai fod wedi eu cynnwys pan wnaed diwygiadau i a.81 (drwy Ddeddf yr Alban 2016 neu Ddeddf Cymru 2017) yn hytrach na thybio y byddent yn ymhlyg.

 

Bydd person sy'n darllen adran 81 yn ei chyfanrwydd yn ymwybodol bod modd addasu is-adran (1) drwy orchymyn a wneir ar wahân o ran Cymru, Lloegr neu'r Alban; ac o ganlyniad dylai gael ei hysbysu na all ei ymholiadau ynghylch y gyfraith orffen â darllen adran 81. Mae hefyd eisoes yn wir nad yw'r terfyn cyflymder yn adran 81(1) yn gymwys i bawb, er nad oes unrhyw sôn am fodolaeth eithriadau yn adran 81 ei hun (gweler Rheoliadau Esemptiadau Traffig Ffyrdd (Lluoedd Arbennig) (Amrywio a Diwygio) 2011). 

 

Er mwyn i'r dull addasu testunol fod yn ymarferol, byddai angen i'r DU a'r ddwy weinyddiaeth ddatganoledig gytuno ar y dull a sicrhau bod y naill a'r llall yn cael gwybod am unrhyw newidiadau a wneir. Byddai hynny’n anodd ei gyflawni'n ymarferol, er enghraifft nid yw adran 81(5) yn darparu unrhyw sail statudol i Weinidogion Cymru ymgynghori â Gweinidogion yr Alban nac i Weinidogion yr Alban ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

 

At ei gilydd felly, ac yn sgil yr ansicrwydd a nodir uchod, mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai diwygiad annhestunol yw’r trywydd mwyaf diogel o ran lleddfu pryderon ynghylch materion vires. Wrth wneud hynny, mae’n cydnabod nad yw'r dull drafftio o dan sylw yn ddelfrydol ond mae'n un y mae wedi gorfod ei ddewis yn sgil y ffordd y mae'r pwerau yn y Ddeddf wedi'u llunio.

 

 

Pwyntiau Craffu ar Rinweddau 2:

 

Mae swyddogion wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â'r Adran Drafnidiaeth a'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau dros y 12 mis diwethaf ynghylch y diwygiadau gofynnol i Reolau'r Ffordd Fawr. Maent wedi cael eu briffio'n llawn am gynlluniau Llywodraeth Cymru a'r ddeddfwriaeth arfaethedig i ostwng y ffyrdd cyfyngedig diofyn i 20mya yng Nghymru. Mae cynlluniau ar waith i ddiwygio gofynion profion gyrru er mwyn cydymffurfio â'r terfyn cyflymder newydd arfaethedig, a chaiff fersiwn argraffedig Rheolau'r Ffordd Fawr ei diweddaru'n briodol hefyd.

 

 

Pwyntiau Craffu ar Rinweddau 3:

 

Mae swyddogion wedi ystyried y pwyntiau a godwyd cyn dod i'r casgliad mai effaith fach a welid ar y system gyfiawnder. Yn hyn o beth, mae swyddogion wedi bod yn gweithio gyda'r Heddluoedd a bydd mesurau lliniaru ar waith ar gyfer y trothwyon a nodir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Fodd bynnag, ni fyddai datgelu'r mesurau lliniaru hyn mewn dogfennau cyhoeddus o unrhyw fudd o ran cyflawni'r amcanion.

 

Mae swyddogion hefyd yn cynghori awdurdodau lleol y gallant ddefnyddio arwyddion traffig dros dro er mwyn hysbysu defnyddwyr ffyrdd am ostyngiadau mewn terfynau cyflymder mewn mannau allweddol lle maent yn credu y gellid cael problemau cydymffurfio. Bydd yr awdurdodau lleol yn gallu cadw'r arwyddion dros dro hynny am 12 mis ar ôl 17 Medi 2023.